1125 C.I.C
Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth ysbrydoledig sy'n addysgu, yn grymuso ac yn
galluogi pobl ifanc ac oedolion i gyflawni eu dyheadau drwy gyfrwng prosiectau creadigol,
mentrau cymdeithasol a chyrsiau academaidd.
Nod 1125 CIC yw gweithio gyda'r bobl ifanc a'r oedolion mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn y gymuned. Byddwn yn datblygu annibyniaeth, hyder, hunan barch a sgiliau gyda dull 4 cam:
Darparu amgylchedd diogel yn rhydd o wahaniaethu a barnu
Addysgu i hyrwyddo gwybodaeth am ymddygiad
mentrus
Grymuso unigolion i gymryd cyfrifoldeb ac i wneud dewisiadau bywyd cadarnhaol
Gwireddu dyheadau drwy gyfleoedd newydd
Cafodd 1125 CIC ei sefydlu yn 2017 ac mae'n sefydliad di-elw sy'n angerddol dros ddarparu gwasanaeth gwych i bobl ifanc ac oedolion difreintiedig ac agored i niwed yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru.
Ein ffocws yw darparu prosiectau yn seiliedig ar faterion, mentrau cymdeithasol a chyrsiau addysg, gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol. Mae 1125 CIC yn darparu gwaith ymgysylltu arloesol, gwirfoddoli, iechyd meddwl, datblygiad personol a chymdeithasol, ymwybyddiaeth a lleihau risgiau i bobl ifanc ac oedolion.
Rydym yn darparu gwasanaeth wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael ag 'anghenion' unigolion gydag agwedd sy'n cael ei yrru gan dargedau ac sy'n ddymunol. Nod 1125 CIC yw datblygu annibyniaeth, hyder, hunan barch a sgiliau drwy ddarparu gwasanaeth ysbrydoledig sy'n addysgu, yn grymuso ac yn galluogi pobl i gwrdd â'u dyheadau i wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at y Gymuned.
Ein ethos yw gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau yn y gymuned i ddarparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd da gydag anghenion y bobl ifanc yn greiddiol iddo. Rydym yn ymwybodol fod yr hinsawdd economaidd wedi golygu bod gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn wedi lleihau gan roi'r bobl ifanc a'r oedolion mwyaf agored i niwed o fewn ein cymuned mewn perygl. Anelwn i lenwi'r bwlch hwn a darparu gwasanaeth rhagorol ar gyfer y gymuned yn y rhanbarth.
Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad fel gweithiwr ieuenctid, rheolwr prosiectau ac artist cymunedol yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. Dwi wedi fy hyfforddi yn ymarferydd Dewis Newid a dwi'n cyflwyno sesiynau camdriniaeth domestig a perthnasoedd iach ac yn rhedeg cyrsiau iechyd rhywiol. Yn ystod y cyfnod hwn, dwi wedi gweithio
Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad fel gweithiwr ieuenctid, rheolwr prosiectau ac artist cymunedol yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. Dwi wedi fy hyfforddi yn ymarferydd Dewis Newid a dwi'n cyflwyno sesiynau camdriniaeth domestig a perthnasoedd iach ac yn rhedeg cyrsiau iechyd rhywiol. Yn ystod y cyfnod hwn, dwi wedi gweithio gyda phobl ifanc anodd eu cyrraedd ac agored i niwed sydd wedi profi digartrefedd a thlodi. Dwi'n defnyddio fy nghefndir yn y celfyddydau wrth reoli prosiectau, cyflwyno cyrsiau achrededig Agored Cymru a digwyddiadau codi arian / cymunedol. Dwi'n credu y 'dylai bod gwasanaethau ym mhob cymuned i unigolion sy'n teimlo wedi eu hynysu gael eu mynychu. Mae'r celfyddydau, cyrsiau a chynlluniau mentrau cymdeithasol yn ffyrdd arbennig o helpu pobl yn ôl ar eu traed ac i gyflawni eu potensial'.
Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad mewn gwaith ieuenctid, rheoli a chynnal gweithdai addysgiadol yn y sector gwirfoddol. Yn ystod y cyfnod hwn dwi wedi gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd ac sy'n anodd eu cyrraedd ac wedi ymddieithrio. Mae gen i hanes o sicrhau fod prosiectau'n cael eu cyflwyno i'r safon gorau posibl
Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad mewn gwaith ieuenctid, rheoli a chynnal gweithdai addysgiadol yn y sector gwirfoddol. Yn ystod y cyfnod hwn dwi wedi gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd ac sy'n anodd eu cyrraedd ac wedi ymddieithrio. Mae gen i hanes o sicrhau fod prosiectau'n cael eu cyflwyno i'r safon gorau posibl, o fewn eu cyllideb a dwi'n gallu arwain timoedd ar brosiectau addysg a iechyd. Fy sgiliau yw gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl gwael drwy hunan fyfyrio, trefn a gweithredu strategaethau ymdopi cadarnhaol. Dwi'n credu y 'dylai pobl ifanc gael mynediad i ddarpariaethau ieuenctid o ansawdd da lle gallan nhw gael profiadau newydd, gwella eu dyheadau a chyrraedd eu hamcanion.'
Dwi wedi gweithio yn y sector addysg am dros 30 mlynedd ac wedi cael profiad o fod yn athro drama, gweithiwr celfyddydau, addysgwr ac ymgynghorydd celfyddydau. Dros y blynyddoedd dwi wedi arwain mewn rolau ymgynghorol o fewn Awdurdodau Lleol a'r sector gwirfoddol ac wedi gweithio fel cyflwynydd ac awdur ceisiadau. Dwi wedi dysgu Saesneg a
Dwi wedi gweithio yn y sector addysg am dros 30 mlynedd ac wedi cael profiad o fod yn athro drama, gweithiwr celfyddydau, addysgwr ac ymgynghorydd celfyddydau. Dros y blynyddoedd dwi wedi arwain mewn rolau ymgynghorol o fewn Awdurdodau Lleol a'r sector gwirfoddol ac wedi gweithio fel cyflwynydd ac awdur ceisiadau. Dwi wedi dysgu Saesneg a drama mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac mewn addysg uwch, wedi arwain sesiynau HMS ac wedi rheoli staff a myfyrwyr mewn prosiectau theatr. Dwi hefyd wedi arwain tîm o weithwyr ieuenctid ac wedi arwain ar geisiadau grant yn y maes gwirfoddol. Dwi'n credu bod 'y celfyddydau yn hanfodol i ddatblygiad y glasoed, nid yn unig i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ond hefyd i ganiatáu mynegiant mewn ffordd heb fod yn gonfensiynol. Mae modd ei ddefnyddio i fynd i'r afael â materion o fewn cymdeithas ac i roi llwyfan i bobl i gael eu lleisiau wedi'u clywed'.
Dwi'n gweithio gyda 1125 CIC fel cyfarwyddwr anweithredol a dwi'n cynnig cyngor yn seiliedig ar fy mhrofiad o addysgu pobl ifanc anodd eu cyrraedd am 37 mlynedd. Fe wnes i ymddeol yn 2009 gan arbenigo mewn Addysg Gorfforol, Mathemateg a gweithio gyda myfyrwyr sydd ag anawsterau addysgol ac ymddygiad ar gyfer Ysgolion Uwchradd yng Ngogle
Dwi'n gweithio gyda 1125 CIC fel cyfarwyddwr anweithredol a dwi'n cynnig cyngor yn seiliedig ar fy mhrofiad o addysgu pobl ifanc anodd eu cyrraedd am 37 mlynedd. Fe wnes i ymddeol yn 2009 gan arbenigo mewn Addysg Gorfforol, Mathemateg a gweithio gyda myfyrwyr sydd ag anawsterau addysgol ac ymddygiad ar gyfer Ysgolion Uwchradd yng Ngogledd Orllewin Lloegr, gan dreulio 23 mlynedd yn gweithio yn Warrington. Gyda chefndir mewn Addysg Gorfforol dwi'n gwybod pa mor bwysig yw gweithgareddau allgyrsiol i bobl ifanc, gan eu bod yn helpu i ffocysu unigolion i wella eu dyheadau. Dwi'n credu y 'gall pobl ifanc gwrdd ag unrhyw amcanion; mae angen iddyn nhw amgylchynu eu hunain gyda dylanwadau cadarnhaol a chymryd rhan mewn cyfleoedd da sy'n codi. Gallwch chi wneud unrhyw beth dim ond i chi roi'ch meddwl ar waith!
Dyma rai enghreifftiau:
Rydyn ni'n cynnig amryw o gyrsiau lleihau risg i bobl ifanc 13-25 oed yn Sir y Fflint.
Dyma'r cyrsiau achrededig Agored Cymru sy'n cael eu cynnig gan 1125 CIC:
Nod ein sesiynau eco yw mynd allan i'r awyr agored i wneud pobl ifanc yn fwy ymwybodol o broblemau amgylcheddol.
Mae'r sesiynau'n cynnwys:
"Rhoi yn ôl"
Mae ein gwasanaethau Gwirfoddoli'n helpu'r gymuned leol drwy:
Rydym yn darparu prosiectau menter gymdeithasol i gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn cynllunio, cyllidebu, marchnata a gwerthu. Mae'r arian sy'n cael ei godi yn mynd yn ôl i'r gymuned.
Mae'r prosiectau'n cynnwys:
Angela Harrison
Rheolwr AIMS, Local Solutions
"Fe fyddwn i'n argymell gweithio gyda 1125 CIC gan fod ganddyn nhw brofiad o redeg prosiectau a chyrsiau llwyddiannus sy'n helpu pobl ifanc i ennill hyder a dysgu sgiliau newydd. Mae gan y tîm gyfoeth o arbenigedd mewn darparu gwasanaethau a nodweddion personol sy'n cyfrannu darpariaeth ragorol i'r gymuned."
Fran Milton
Rheolwr Teuluoedd a Phlant, Save the Family
"Rydw i wedi cael y pleser o fynychu gweithdai wedi eu cyflwyno gan 1125 CIC... a dwi wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y maen nhw wedi'i wneud i fywydau'r bobl ifanc sydd wedi mynychu prosiectau Achub y Teulu yn Sir y Fflint drwy gefnogaeth un i un, gwaith allanol, cyrsiau achrededig a phrosiectau ymgysylltu arloesol a digwyddiadau cymunedol."
Tracey Armstrong
Cydlynydd Cefnogaeth Bersonol, Tîm Dyrchafu Sir y Fflint
Mae 1125 CIC yn dylunio ac yn darparu gweithgareddau diddorol, llawn hwyl yn seiliedig ar y dysgwyr a'r cyrsiau penodol y maen nhw'n eu trefnu. Mae'r bobl ifanc yn ymateb yn gadarnhaol, yn datblygu sgiliau, yn gwella lles ac yn cymryd mwy o gyfrifoldeb yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu dyfodol.
Cadeirydd Clwb Criced Cei Connah
Mae 1125 CIC wedi gweithio gyda ni yn y Clwb Criced ac wedi helpu i adnewyddu'r gofod yn yr iard. Rydyn ni i gyd yn ddiolchgar am eu gwaith caled i greu gofod y gall y gymuned ei fwynhau.