Roedd Busnes Peryglus yn prosiect 6 blynedd wedi'i gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Cafodd ein prosiect Busnes Peryglus Mentora Cyfoedion ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rhwng 2019 a 2022 gan barhau o 2022 i 2025 gan ddarparu rhaglen wythnosol o weithgareddau i bobl ifanc agored i niwed, rhwng 11 a 25 oed, yn siroedd y Fflint a Wrecsam. Helpodd y prosiect bobl ifanc i ddatblygu hyder, i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r gymuned, i ddod yn fentor cyfoedion ac i deimlo wedi'u harfogi'n well i wneud penderfyniadau mewn perthynas ag ymddygiad 'cymryd risg'.
I gychwyn fe ganolbwyntiodd y rhaglen ar ymgysylltiad a gwaith ar ddatblygu hunanhyder, sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm. Yn ail, fe weithiodd ar sgiliau arweinyddiaeth gan ddarparu cyfle i'r buddiolwyr ddod yn fentoriaid cymheiriaid a'r trydydd cam oedd gweithgareddau dan arweiniad y mentoriaid cymheiriaid.
Fe helpodd y prosiect Busnes Peryglus i rymuso ein pobl ifanc i dorri'r cylch o 'angen' a
digartrefedd.
'celfyddydau'/ymarferol fel modd I gynnwys buddiolwyr mewn amgylchedd
cynhwysol ac anfeirniadol, heb ofni bod yn anghywir.