1125 CIC
Mae Lleisiau Cudd yn brosiect sy'n annog pobl ifanc i archwilio lleisiau cudd yn eu hardal leol ar lannau Merswy mewn perthynas â hil a sut mae materion wedi cael eu trafod yn y gorffennol er mwyn helpu cymunedau i ddod at ei gilydd ac adeiladu perthnasoedd cryfach.
Mae'r grŵp wedi bod yn cyfweld ac yn casglu datganiadau gan bobl yn ardal ddu Toxteth. Mae'r prosiect wedi golygu bod pobl yn siarad felly edrychwch ar y gwaith ysbrydoledig gafodd ei gynhyrchu.
Galluogodd prosiect fideo'r Fainc bobl ifanc agored i niwed o Sir y Fflint i greu ffilm fer am iechyd meddwl. Dros y flwyddyn roedd y bobl ifanc wedi bod yn llafar am y problemau roedd y bobl ifanc wedi eu profi dros gyfnod Covid-19 gan siarad am sut yr oedd pryder wedi effeithio ar fywydau cymaint o bobl. Roedden nhw eisiau gwneud fideo i ddangos gwahanol emosiynau ond roedden nhw am wneud hyn gan ddefnyddio props a gweithredoedd. Bu'r grŵp yn gweithio gydag artist dawns gan ddatblygu darnau bach wedi eu coreograffu, gafodd eu golygu i mewn i'r darn fideo gwreiddiol. Bu 19 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect ac mae 1125 CIC a'r grŵp ieuenctid yn falch o'r ffilm fer ac yn gobeithio y bydd yn helpu bobl ifanc eraill i siarad yn agored am iechyd meddwl.
Bu 1125 CIC yn creu llwybrau draig ar gyfer y Gymuned yn Sir y Fflint yn ystod 2022. Roedd 10 o bobl ifanc yn rhan o'r prosiect ac adroddodd un gwirfoddolwr ifanc hanesion Blodeuwedd a Gelert yn ystod y cyfnod clo, fel rhan o brosiect ysgrifennu creadigol. Mae 8 o bobl ifanc wedi peintio a gosod y drysau a 2 wirfoddolwr ifanc wedi darllen y stori ar gyfer y tâp sain. Mae 1125 CIC a'r grŵp ieuenctid a'r gwirfoddolwyr ifanc yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r llwybr.
Roedd Clywed ein Lleisiau ('Make Ourselves Heard') yn brosiect oedd yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd wedi cael eu hanfanteisio drwy ddigartrefedd, eithrio, problemau iechyd meddwl a chamdriniaeth. Gan ddefnyddio theatr Forum fe greodd y grŵp berfformiad i wneud i bobl ddeall sut maen nhw'n teimlo ac i alluogi'r grŵp i gael llais.
Roedd Re-boot yn brosiect wedi'i ysbrydoli gan gemau cyfrifiadur yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 19 yn Sir y Fflint, gan annog sgiliau byw iach ac anelu at leihau ymddygiad mentrus. Bu'r grwpiau'n cymryd rhan mewn gweithdai gyda senarios 'bywyd go iawn' yn golygu datrys problemau eu hunain yn hytrach na defnyddio rhithffurfiau.
Roedd y gweithdai'n trafod diogelwch ar-lein ac ar y ffôn gan gyfeirio at hunluniau a smapchat, cyfreithiau ar oedran cydsynio, perthnasoedd iach, 5 cam iechyd meddwl a gwytnwch. Rhoddwyd heriau i'r grŵp oedd yn helpu i'w hysgogi, i wella eu hagwedd a'u hyder er mwyn iddynt wneud dewisiadau mwy gwybodus yn y dyfodol.
Roedd Flipside yn brosiect 3 cham yn ffocysu ar helpu pobl ifanc oedd wedi cael profiad o ddigartrefedd i wella eu lles meddyliol. Cam cyntaf y prosiect oedd ymgysylltiad a bu'r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn sesiynau celfyddydol lle roedden nhw wedi 'cysylltu', 'yn fywiog' ac yn 'ymwybyddol ofalgar'. Yr ail gam oedd 'Dal i ddysgu' drwy gyfrwng cwrs perthnasoedd iach a lles yn ffocysu ar gredoau am eu 'hunain' ac 'eraill'. Y cam olaf oedd 'rhoi i eraill' ac roedd hyn yn golygu gwaith tîm gan greu paentiad mawr haniaethol ar gyfer Clwb Ymaflyd Codwm Basix i gynrychioli taith y grŵp a phwysigrwydd gweithio tuat at ddyfodol gwell.
Fe hoffen ni ddiolch yn fawr iawn i'r sefydliadau, y cyllidwyr a'r bobl gwych sydd wedi ein helpu ni gyda'r prosiectau a'r digwyddiadau hyn.