1125 C.I.C
Yn 2022 fe fuon ni'n gweithio gydag arbenigwr-Eco ac aeth gweithwyr 1125 CIC ar gwrs Llythrennedd Carbon i Arweinwyr gan wneud addewidion.
‘Addewid 1125 CIC i leihau ein hôl troed carbon’
Fel cwmni rydyn ni'n addo gwneud penderfyniadau sy'n ymwybodol o'r amgylchedd i liehau ein hôl troed carbon gyda'r dyhead o fod â gofod bychan carbon niwtral erbyn 2032.
Rydym yn addo bod yn eiriolwyr dros leihau, ail-ddefnyddio ac ailgylchu a hyrwyddo bwydydd iach gan wneud pobl ifanc yn ymwybodol o rysaitiau heb gig a chynnyrch llaeth. Byddwn yn hyrwyddo cynlluniau gwastraff bwyd ac yn tyfu llysiau a bwydydd seiliedig ar blanhigion yn y gymuned, prynu adnoddau yn lleol er mwyn i ni leihau allyriadau carbon rhyngwladol. Yn ystod misoedd yr haf byddwn yn hyrwyddo dyddiau peidio defnyddio'r car a cheisio defnyddio beic, cludiant cyhoeddus neu gerdded pan gallwn ni.
Arweinydd ieuenctid: 'Yn ystod ein Hadduned Eco fe fuon ni'n ymweld â gerddi cymunedol lleol ac yn dysgu am gompostio a sut i dyfu bwyd. Fe ddysgon ni am gnydau a sut y maen nhw'n cael eu plannu fesul codlysiau, gwreiddlysiau, llysiau gwyrdd deiliog a chnydau sy'n dwyn ffrwyth ac y dylen ni ddefnyddio plannu cylchdro er mwyn osgoi plâu a chlefydau.'
Lindsay Apsley ‘Fe ddysgon ni am baramaethu a sut i ddatblygu ecosystemau sy'n gynaliadwy ac yn hunangynhaliol. 'Fe edrychon ni ar y ffordd y gellir defnyddio adnoddau naturiol i amddiffyn y planhigion drwy ddefnyddio polion collen a chortyn ac fe gawson ni wers ar baramaethu a sut i greu ecosystem holistig a chydseiniol. Roedden ni wrth ein bodd yn edrych o gwmpas Gerddi Organig Llechwedd Garth yng Nglyn Ceiriog - fe welson ni neidr ddefaid hyd yn oed!'
Arweinydd ieuenctid: 'Fe ddwedon nhw wrthon ni i weithio gyda natur ac nid yn ei erbyn drwy wella'r bioamrywiaeth lleol.'
Ysgol goedwig yw Bydis Bedw (Birch Buddies) ar gyfer pobl ifanc 11-13 oed sy'n galluogi pobl ifanc agored i niwed ac wedi'u hynysu i fod yn yr awyr agored ac i archwilio byd natur. Mae Bydis Bedw yn helpu i gael rhai o'r grŵp ieuengaf allan o'r tŷ i amgylchedd diogel yn yr awyr agored lle gallan nhw wneud ffrindiau a chwarae. Mae'r prosiect yn cynnwys ysgolion coedwig, chwarae yn yr awyr agored, teithiau cerdded a sgyrsiau natur, cynnau tân, coginio bwyd iach ar y tân, defnyddio offer awyr agored, adeiladu den, celfyddydau natur a dysgu am yr amgylchedd.
Rydyn ni'n cynnal Ysgolion Coedwig yn ystod y flwyddyn ar gyfer gwahanol oedrannau fel bod pobl ifanc yn cael y cyfle i fynd allan i ganol natur a dysgu sgiliau bywyd. Yn ystod y sesiynau mae'r grŵp yn dod i ddysgu am fioamrywiaeth, yn defnyddio amrywiaeth o offer llaw, ac yn gallu adeiladu eitemau gyda deunyddiau awyr agored, adeiladu lloches dros dro a byddant yn dysgu sut i adeiladu a diffodd tân.
‘Bydd y bobl ifanc yn elwa'n holistaidd drwy gysylltu gyda natur drwy arsylwi a dysgu sut y gallan nhw amddiffyn eu hamgylchedd naturiol’
'Bydd y grŵp hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu technegau ymwybyddol ofalgar y gallan nhw eu hymarfer gartref'.