Mae'n prosiect Restart yn galluogi dysgwyr 13-19 oed a hyd at 25 oed i ennill achrediadau Agored Cymru. Mae'r prosiect yn cynyddu hyder a dyheadau pobl ifanc ac yn galluogi unigolion i wneud dewisiadau bywyd mwy gwybodus yn y dyfodol. Mae 1125 yn cyflwyno 8 o gyrsiau achrededig Agored Cymru.
Uned Agored Cymru ar Ddeall Perthnasoedd (Perthnasoedd Iach)
Bydd dysgwyr yn astudio pob agwedd o berthnasoedd iach yn cynnwys perthnasoedd pwysig yn eu bywydau, credoau ac o ble maen nhw'n dod. Bydd dysgwyr yn gallu adnabod ymddygiadau camdriniol, pŵer a rheolaeth ac o ble i gael gafael ar gefnogaeth. Gan ddefnyddio dulliau amrywiol bydd y bobl ifanc yn dysgu sgiliau sy'n ofynnol i gael perthnasoedd iach, yn derbyn cyfrifoldeb dros weithredoedd lle bo angen ac yn datblygu'r gallu i weld safbwyntiau pobl eraill.
Uned Agored Cymru ar Iechyd Meddwl a Lles
Mae'r cwrs yma'n cyflwyno'r 5 cam at les meddyliol fel sy'n cael eu hargymell gan y GIG. Bydd dysgwyr yn gwneud 5 her, yn 'cysylltu' drwy weithdai cyfranogiad grŵp, perthnasoedd ac 'Ymwybyddiaeth ofalgar' yn ffocysu ar strategaethau lleihau risg ac ymlacio. Mae'r dysgwyr yn gallu bod yn 'weithredol' drwy osod amcanion personol newydd, yn gallu 'parhau i ddysgu' drwy greu cofarwydd personol positif ac yn olaf maen nhw'n gallu 'rhoi i eraill'. Erbyn diwedd y cwrs bydd dysgwyr yn deall beth yw ystyr iechyd meddwl a lles, ymwybyddiaeth emosiynol, ffactorau gwytnwch a mecanweithiau ymdopi i leihau pryder a straen.
Uned Agored Cymru ar Ddeall Perthnasoedd Rhywiol
Mae'r cwrs Addysg Rhyw yn darparu gofod diogel i ddysgwyr drafod beth yw rhyw a'r gwahanol fathau o ieithwedd sy'n cael eu defnyddio wrth siarad am ryw. Mae'r dysgwyr yn edrych ar ganlyniadau emosiynol a chorfforol rhyw, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, atal cenhedlu a deddfwriaeth gyfredol yn cynnwys cyfreithiau ar 'dynnu' a 'rhannu' lluniau rhywiol eglur, cydsyniad ac erthyliad. Bydd y dysgwyr yn derbyn gwasanaethau yn y maes os oes angen gwybodaeth neu arweiniad pellach yn cynnwys y cynllun Cerdyn-C.
Uned Agored Cymru ar Wirfoddoli ac Ymgysylltiad Cymunedol
Mae'r cwrs yma'n cynnig profiad gwaith a sgiliau cyflogadwyedd i ddysgwyr er mwyn gwella eu cyfleoedd o gael gwaith yn ogystal â rhoi yn ôl i'w cymuned. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn adnabod eu sgiliau personol eu hunain y gallan nhw eu cynnig ac yn ymchwilio i gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn eu cymunedau. Bydd y dysgwyr yn cael gwella eu hyder drwy drefnu eu cyfranogiad a byddant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn 30 awr o wirfoddoli yn y gymuned.
Uned Agored Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau
Mae'r cwrs ar Ddeall Camddefnyddio Sylweddau yn addysgu dysgwyr ar gategorïau sylweddau, eu heffaith a'u statws cyfreithiol. Bydd dysgwyr yn deall yn well effeithiau hir dymor a thymor byr sylweddau a'r risgiau cysylltiedig, a byddant yn edrych ar fepio a'r effaith y mae hyn yn gallu ei gael ar y corff. Gyda'n gilydd byddwn yn archwilio effeithiau camddefnyddio sylweddau ar eu cymuned a'r effaith ar gymdeithas gyfan.
Uned Agored Cymru ar Sgiliau Byw'n Annibynnol
Mae'r cwrs Sgiliau Byw'n Annibynnol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau coginio ymarferol drwy ddysgu am fwyta'n iach, coginio ar gyllideb, coginio cost-effeithiol a hylendid bwyd. Bydd y cwrs yn caniatáu ar gyfer datblygiad mewn rheoli'r cartref, sut i ddilyn ffordd o fyw iach, rheoli amser, gofal personol, lles a chymdeithasoli a sut i gwblhau ceisiadau am swydd. Ar ddiwedd y cwrs bydd y dysgwyr yn gallu coginio prydau iach a byddant wedi gosod amcanion iach ar gyfer y dyfodol.
Uned Agored Cymru ar Fentora Cymheiriaid
Mae'r cwrs Mentora Cymheiriaid yn galluogi dysgwyr i gael cyfle i ddatblygu eu sgiliau drwy gynllunio, trefnu a rhedeg gweithgaredd mentora cymheiriad ar raddfa fach. Bydd y dysgwyr yn cymryd rôl arweiniol yn trefnu amserlen o weithgareddau yn seiliedig ar eu hanghenion a'u diddordebau a byddant yn weithredol yn paratoi, cynllunio gweithgareddau, cyflwyno a gwerthuso'r dasg a ddewiswyd. Bydd y dysgwyr yn helpu i gwblhau asesiadau risg ac yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, yn archwilio ffiniau a chyfrinachedd o fewn perthynas mentorau cymheiriaid.
Uned Agored Cymru ar Sgiliau Awyr Agored
Bydd y dysgwyr yn adnabod peryglon mewn lleoliad awyr agored, yn dysgu am fioamrywiaeth, yn defnyddio amrywiaeth o offer llaw, ac yn gallu adeiladu eitemau gyda deunyddiau awyr agored, adeiladu lloches dros dro a byddant yn dysgu sut i adeiladu a diffodd tân. Ar ben hyn, bydd y bobl ifanc yn elwa'n holistaidd drwy gysylltu gyda natur drwy arsylwi a dysgu sut y gallan nhw amddiffyn eu hamgylchedd naturiol.
1. Bydd dysgwyr yn adrodd cynnydd yn eu hyder.
2. Bydd dysgwyr yn codi eu dyheadau.
3. Bydd dysgwyr yn cynyddu eu hymwybyddiaeth o'u hymddygiad mentrus.
"Fe hoffwn i ddweud cymaint dwi'n mwynhau gweithio gyda Lindsay a Haley. Maen nhw bob amser yn broffesiynol ac yn gwneud eu gorau i ddarparu gwasanaeth rhagorol i fy nisgyblion sydd wedi ymddieithrio. Roedd yr anogaeth a'r codi hyder a roddon nhw i bob merch yn wych ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn. Roedd y merched yn fodlon troi i fyny i bob sesiwn gan wneud hynny'n hapus. Roedden nhw bob amser yn cael croeso cynnes, gyda phaned, oedd yn helpu'r merched i ymlacio a theimlo eu bod yn cael eu croesawu. Mae hyn yn bwysig iawn gan bod llawer ohonyn nhw wedi colli cyfeiriad a dwi'n teimlo fod y gwaith maen nhw wedi'i wneud gydag 1125 CIC wedi rhoi golwg newydd ar bethau iddyn nhw."
"Rydyn ni'n gweithio i Rwydwaith 14-19 Cyngor Sir y Fflint fel rhan o'r adran ieuenctid addysg+. Rydyn ni'n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed sydd, am ba bynnag reswm, ddim yn mynychu'r ysgol neu sydd mewn perygl o ddod yn NEET. Mae'r bobl ifanc rydyn ni wedi eu cyfeirio at Haley a Lindsay wedi cael eu cyrsiau'n fuddiol iawn gan fod agwedd y ddwy tuag at y grŵp yn ymlaciol ac yn ofalgar, mae'n hyrwyddo hunanhyder a hunan-barch y mae eu hangen ar y bobl ifanc yn eu bywydau. Mae arddull arweinwyr y grŵp yn fodelau rôl positif, felly roedd y bobl ifanc yn ei chael hi'n hawdd siarad gyda nhw am faterion personol. Roedd eu gweithgareddau'n therapiwtig, yn hwyl ac yn ddiddorol yn ôl y bobl ifanc, ac roedd hyn yn helpu gyda phresenoldeb y bobl ifanc bob wythnos."
"Mae'r cyrsiau sy'n cael eu cynnig drwy 1125 CIC bob amser wedi bod yn werthfawr i'n pobl ifanc. Maen nhw'n cynnig darpariaeth gyflenwol a therapiwtig i'r bobl ifanc. Mae'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi yn cychwyn gyda pharatoi manwl ymlaen llaw a chyfarfod y bobl ifanc i ffurfio perthynas gyda nhw ynghyd â chynllunio pecynnau unigol wedi'u llunio ar gyfer pob aelod o'r grŵp. Mae'r cyrsiau'n ddiddorol, yn hwyl ac yn berthnasol ac yn rhoi'r bonws ychwanegol i'r bobl ifanc o ennill cymwysterau. Yn aml, mae hyn yn rhywbeth nad ydyn nhw'n gallu ei gyflawni yn yr ysgol. Gan bod y grwpiau fel arfer yn rhai llai ac yn cael eu cynnal mewn lleoliadau heb fod yn ysgolion mae ein pobl ifanc yn cael hyn yn fwy buddiol. Mae'r gefnogaeth 11-25 yn werthfawr dros ben ac mae'r adborth gan bobl broffesiynol a'r bobl ifanc yn adleisio hyn."
"Fe es i ar y cwrs iechyd meddwl a lles. Roedd yn ddefnyddiol iawn. Fe ddysgais i gymaint am iechyd meddwl ac am ble i fynd i gael cefnogaeth. Fe wnaeth y cwrs i mi sylweddoli pa mor bwysig yw gofalu am fy iechyd meddwl a'r pethau y gallaf eu gwneud i wneud i mi deimlo'n well. Byddwn i'n bendant yn argymell y cwrs yma i bobl eraill yr un oed â fi."
"Fe wnes i gwblhau'r cwrs gwirfoddoli a'r gymuned. O'n i'n edrych ymlaen at y sesiwn bob wythnos a wnes i ddim colli un ohonyn nhw. Fe wnes i fwynhau cynllunio'r digwyddiad cymunedol cymaint nes i mi gofrestru i fod yn fentor cymheiriaid gyda Haley a Lindsay ar gyfer prosiect arall".
"Fe es i ar gwrs wnaeth ddysgu llwyth o sgiliau i mi fel sut i dawelu, sut beth yw perthynas iach ac fe ddysgodd sgiliau cymdeithasol i mi hefyd. Fe ddysgais i sut i ddod yn berson gwell yn gymdeithasol a sut i siarad yn iawn gyda phobl. Fe ddysgais i lwyth o sgiliau bywyd ar y cwrs ac fe ddysgodd fi sut i wella fy hun fel person".
"Dwi'n hoffi dod i sesiynau gyda Haley a Lindsay. Dwi ddim fel arfer yn hoffi dysgu, ond maen nhw'n gwrando arna' i ac yn fy helpu i".
"Dwi wedi mwynhau'r cwrs yn fawr iawn a dwi'n meddwl y byddwn i'n barod i ymuno a grŵp mwy cyn bo hir. Mae wedi fy helpu i agor i fyny a siarad am sut dwi'n teimlo ac wedi ei wneud yn ofod diogel".
"Dwi wedi edrych ymlaen at ddod i'r sesiynau. Mae wedi rhoi rhywbeth i mi wneud ac wedi fy helpu i ddod allan o fy 'stafell a chael rhywbeth da i ganolbwyntio arno".