Ar gyfer y prosiect Antur Enbyd mae 1125 CIC wedi cael cyllid parhad gan raglen Pobl a Lleoedd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae ein prosiect Antur Enbyd wedi'i leoli yn Sir y Fflint ac mae'n gweithio gyda phobl ifanc agored i niwed rhwng 11 a 25 oed. Mae'n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl pobl ifanc drwy gynnal gweithgareddau ymgysylltu gyda ffocws trwm ar ein hamgylchedd drwy gael pobl ifanc allan i'r awyr agored yn dysgu sgiliau newydd. Mae'r rhaglen Antur Enbyd yn cael ei gynnal am 2 ddiwrnod yr wythnos gyda gweithgareddau wedi'u hamserlennu i'r bobl ifanc weithio ar eu hyder, eu sgiliau cymdeithasol a'u gallu i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, yn ogystal â chael y cyfle i gymryd rhan mewn achrediadau arweinyddiaeth!
Bydd staff a phobl ifanc Antur Enbyd yn gweithio ar leihau ein hôl troed carbon drwy wneud ôl troed gwaelodlin fydd yn cael ei fonitro yn ystod 3 blynedd y prosiect! Mae'r dyfodol yn edrych yn wych!
"Rydyn ni wedi helpu i siapio'r prosiect hwn i fod yn union beth sydd ei angen arnom ni ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y sesiynau wythnosol" Benyw 17 oed.
"Rydyn ni eisiau cwrdd a chael hwyl tra'n dysgu sgiliau newydd". Benyw 14 oed.