Mae'r gymuned yn bwysig iawn i 1125 CIC ac yn ystod y flwyddyn rydyn ni'n trefnu gweithgareddau gwirfoddoli i helpu pobl yn yr ardal leol ac i helpu i wella gofodau cymunedol.
Adeg y Nadolig rydyn ni'n gwneud blychau rhannu ar gyfer y bobl ifanc sy'n rhan o gymuned 1125 CIC. Yn y blychau mae bomiau bath wedi'u gwneud â llaw, canhwyllau, gemwaith, arwyddion cadarnhaol a hadau 'pob lwc' i dyfu eich hun.
Meddai un o'r bobl ifanc, 'Diolch am yr anrheg, roedd hi mor braf cael anrheg wedi'i wneud gan y grŵp'.
Os hoffech chi gyfrannu unrhyw arian i gefnogi ein hapêl blwch rhannu, cysylltwch â ni ar: (neu cliciwch fan hyn)
Mae parchu ein cymuned yn bwysig felly rydyn ni'n gweithio gyda phobl ifanc i helpu i 'roi yn ôl' drwy beintio adeiladau cymunedol neu helpu i adnewyddu gofodau awyr agored. Rydyn ni wedi gweithio yng Nghlwb Criced Cei Connah ac wedi helpu gyda'r iard tu allan...
Yr adborth oedd 'Mae'n wych, mae'n edrych yn anhygoel ac mae'r holl bobl yn y clwb wrth eu bodd gyda beth rydych chi i gyd wedi'i wneud'.
Rydyn ni'n trefnu gweithgareddau casglu sbwriel lle mae pobl ifanc yn gallu dewis pa stryd i'w lanhau. Rydyn ni'n dod at ein gilydd fel grŵp, ac ar ôl cyflwyniad byr ar ddiogelwch rydyn ni'n gafael mewn codwr sbwriel a bag ac yn treulio ychydig o oriau'n glanhau'r lleoliad.
Rydyn ni'n hyrwyoddo gwasanaethau lleol yn yr ardal er enghraifft y Banc Bwyd, eglwysi ... ond rydyn ni hefyd wedi darparu parseli bwyd argyfwng i bobl ifanc a theuluoedd sydd mewn argyfwng.
Os hoffai unrhyw un gyfrannu arian i 1125 CIC tuag at barseli bwyd argyfwng, cysylltwch â ni.
Mae hyn yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael.
Rydyn ni'n darparu prosiectau menter gymdeithasol sy'n galluogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y gwaith cynllunio, cyllidebu, marchnata a gwerthu'r cynnyrch y maen nhw wedi eu gwneud. Mae'r arian sy'n cael ei godi yn mynd yn syth yn ôl i'r gymuned.
Yn ystod y sesiynau Re-new rydyn ni'n cynnal gweithdai creadigol yn gwneud y cynnyrch sy'n cael eu creu allan o 'sbwriel' sy'n aml yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol - alwminiwm o ganiau, papur o sigaréts a thopiau poteli gwin a chwrw; ynghyd â phethau sy'n cael eu taflu fel plastigau, gwifrau, cogiau a phapur. Mae'r gweithdai busnes yn galluogi unigolion i ddysgu am hysbysebu, marchnata a chyllidebu ac mae'r sesiwn olaf yn galluogi'r grŵp i werthu eu cynhyrchion.
Os hoffai unrhyw un gyllido'r prosiect menter gymdeithasol Renew, cysylltwch â ni.
Yn ystod gweithdai 'Tyfu eich hun' mae'r bobl ifanc yn cymryd rhan ym mhob agwedd o greu'r pecynnau natur. Mae'r bobl ifanc yn helpu i ddod o hyd i'r cynnyrch a rhoi'r eitemau yn y blychau cardfwrdd. Yn y pecynnau 'Tyfu eich hun' rydyn ni'n rhoi perlysiau, llysiau a phlanhigion tymhorol, pelennau compost a chyfarwyddiadau er mwyn i chi allu tyfu eich cynnyrch eich hun ar eich silff ffenestr. Rydym hefyd yn rhoi cardiau post cadarnhaol a dyfyniadau cymhellol yn y blychau y gallwch eu gosod o gwmpas y tŷ. Os hoffai unrhyw un brynu blychau 'Tyfu eich hun' cysylltwch â ni.
Rydyn ni'n trefnu digwyddiadau codi arian yn y gymuned i geisio codi arian i 1125 CIC. Mae'r arian sy'n cael ei godi'n mynd yn ôl i'r gymuned er mwyn gallu trefnu gweithgareddau i'r bobl ifanc sydd eu hangen fwyaf. Os hoffai unrhyw un gynnal digwyddiad codi arian, cysylltwch â ni.
Os hoffai unrhyw un gyfrannu arian i 1125 CIC tuag at brosiectau cymunedol, cysylltwch â ni. Mae pob cyfraniad, bach neu fawr, yn cefnogi pobl ifanc o'n cymuned.